Lleoliad:
Cynhadledd fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Ionawr 2024
Amser:
09.01 -
09.20
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Llyr Gruffydd AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Llinos Madeley, Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Alun Davidson, Tîm Newid Cyfansoddiadol /Strategaeth Busnes Seneddol |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan, roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei rhan.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Tata Steel (45 munud)
·
Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Economi Blaenau’r Cymoedd (30 munud) Gohiriwyd
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.
Dydd Mercher
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes nad yw'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gallu ymateb i ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid llywodraeth leol gan y bydd yn teithio i gyfarfod rhyngweinidogol yn yr Alban. Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yn ymateb i'r ddadl yn ei lle.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 30 Ionawr 2024
·
Datganiad gan y Prif Weinidog
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad
terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (45
munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Papur gwyn ar gyfer Bil arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth (30 munud)
·
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol
(Cymru) (Diwygio) 2024 (5 munud) - gohiriwyd tan 20 Chwefror
Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024
· Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (5 munud)
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 31 Ionawr 2024 -
· Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog (5 munud)
Dydd Mercher 21 Chwefror 2024 -
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Ymchwiliad i Lywodraethiant y DU a’r UE (45 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer: Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 31 Ionawr:
Mabon ap Gwynfor
NNDM8434
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf corff rheoleiddio.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol a ddisgwylir gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n teimlo nad yw'r safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG Cymru, a byddai ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr GIG Cymru oddi ar ei gofrestr a gynhelir;
b) diffinio beth yw rheolwr GIG Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac
c) ei gwneud yn ofynnol i holl reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru i gyfarfod ar 20 Chwefror, 19 Mawrth a dyddiau Mawrth dilynol pan fo angen, cyn cytuno ar slot parhaol ar ddyddiad i ddod.
Business Committee considered the recommendations made to it by the Reform Bill Committee and agreed its response.
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft sy'n cynnwys cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â Biliau Cydgrynhoi sy'n deillio o'i adolygiad cyfyngedig o'r gweithdrefnau hynny a chytunodd arnynt. Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno cynnig yn cynnig bod y Senedd yn cytuno ar y newidiadau arfaethedig i’w drafod ddydd Mercher 31 Ionawr.
Trafododd y Pwyllgor Busnes ymatebion a gafwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Fforwm y Cadeiryddion a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i rannu'r ymatebion a dderbyniwyd ac i roi cyfle i'r rhai sydd eisoes wedi darparu gwybodaeth i ddarparu rhagor o fyfyrdodau, cyn dychwelyd at y mater o wneud newidiadau i'r Rheolau Sefydlog mewn cyfarfod yn y dyfodol.